Ymunwch â'r Tîm
Ar hyn o bryd mae Cwm Arian yn cyflogi 20 o bobl, yn ogystal â hynny'n gweithio gyda chontractwyr llawrydd a gwirfoddolwyr ymroddedig.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rolau gwirfoddol, yna edrychwch ar ein tudalen gwirfoddoli. Os oes gennych sgiliau penodol yr hoffech eu cynnig neu os hoffech gynnig rhywbeth nad yw wedi'i restru, yna anfonwch e-bost atom, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ysgrifennydd Cofnodion
Mae Cwm Arian yn chwilio am Ysgrifennydd Cofnodion i gefnogi Cyfarwyddwyr yng nghyfarfodydd y Bwrdd.
Hoffem gyflogi rhywun i gadw cofnodion yn ein cyfarfodydd, a gynhelir bob yn ail fis, fel arfer ar-lein, ac yn bersonol yn ardal Hermon/Crymych yn achlysurol.
Mae'r cyfarfodydd tua 2 awr o hyd ac ar hyn o bryd fe'u cynhelir ar ddydd Mercher olaf y mis o 4yp.
Dyma lle mae llawer o benderfyniadau strategol Cwm Arian yn cael eu gwneud ac mae llawer o wybodaeth, gan gynnwys data ariannol manwl, yn cael ei rhannu rhwng y Cyfarwyddwyr a'r staff i lywio'r penderfyniadau hynny.
-
Tâl: £19.40 yr awr ar sail hunangyflogedig, tua 6 awr y cyfarfod
(6 chyfarfod y flwyddyn)
-
Dyddiad cau: Dydd Sul 8fed Tachwedd 2026
Cydlynydd Pobl
Mae Cwm Arian yn chwilio am Cydlynydd Pobl. Mae'r Cydlynydd Pobl yn ganolog i waith Cwm Arian, trwy adeiladu'r math o le sy'n helpu ni i gyd i ffynnu. Mae'r rôl yn un strategol, gan ddatblygu dulliau a diwylliant sy'n cefnogi Cwm Arian i weithio'n dda o fewn strwythur an-hierarchaidd, ac i gefnogi'r strwythur hwnnw i fod y gorau.
-
2 ddiwrnod yr wythnos (15 awr)
-
£31,629 y flwyddyn, pro rata (£12,651.60 mewn gwirionedd)
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 18 Tachwedd 2026
-
Cyfweliadau: 7 Rhagfyr 2026 yng Nghrymych
-
Anfonwch eich disgrifiad swydd wedi'i gwblhau drwy e-bost i recriwtio@cwmarian.org.uk