top of page

Sophie Jenkins

Hwb Dysgu'r Tir | Swyddog Prosiect CLEAN Afon Nyfer

Mae Sophie yn Swyddog Prosiect ar brosiectau Hwb Dysgu'r Tir a CLEAN Afon Nyfer yng Nghwm Arian.

Mae Sophie wedi bod yn gweithio o fewn y trydydd sector yn Sir Benfro ers 8 mlynedd ar brosiectau datblygu cymunedol sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, treftadaeth ddiwylliannol a’r iaith Gymraeg. Mae prosiectau wedi cynnwys prosiect Perllan y Bobl yn Llandudoch, prosiect Ein Cymdogaeth Werin - Preseli Heartlands Communities a chydlynu Canolfan Llwynihirion Brynberian. Merch fferm yw Sophie, ac mae ganddi dreftadaeth gyfoethog o ffermio mynydd ym Mynyddoedd y Preseli.

E-BOSTIWCH Sophie am wybodaeth ar brosiectau Hwb Dysgu'r Tir neu CLEAN Afon Nyfer.


Sophie Jenkins
bottom of page