top of page

Newyddion Gwych: Cyfle Torri Elfenol yn Nghoed Pengelli

Mae Cwm Arian yn gyffrous i gyhoeddi prosiect peilot newydd sbon fel rhan o’n menter Coedwigoedd Bro Preseli, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (WTSWW) a Coleg Coetir (Coppicewood College).


Rydym yn cynnig cyfle prin i reoli plotiau elfenol 41​ erw mewn coetir derw hynafol hardd yng Nghoed Pengelli ar gyfer tymor 2026–2027 (diwedd Medi 2026 tan ddiwedd Mawrth 2027).

Cyfle gwych yw hwn i unrhyw un sydd am ddechrau ar eu taith reoli coetir, neu weithwyr elfenol profiadol sydd angen mynediad i goetir lleol.


Beth sydd ar gael yn y Prosiect Peilot?

  • Plot 41​ Erw: Mynediad i plot elfenol i'w reoli yn unigol neu ar y cyd fel tîm ar eich cyflymder eich hun.


  • Mentora Arbenigol: Tri sesiwn mentora gydag arweiniad gan diwtoriaid Coleg Coetir:

    1. Cyn-tymor: Ymweliad â'r plot a chyngor ar sut i gynllunio'ch gwaith.

    2. Canol-tymor: Adolygiad o'ch cynnydd ac arweiniad pellach.

    3. Diwedd-tymor: Evaluo'ch gwaith ac adborth Terfynol.


  • Pren i'w Gadw: Yr holl bren rydych yn ei dorri yw eich un chi i'w dynnu a'i ddefnyddio neu ei werthu!

  • Dysgu ac Ethos: Gweithio gydag offer llaw yn unig, gan ddilyn ethos dysgu Coleg Coetir mewn amgylchedd cefnogol a chymunedol.


Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi?

  • Gweithio o fewn cynllun rheoli'r coetir gan roi iechyd hirdymor y coetir yn gyntaf.

  • Hunan-reoli eich amser a'ch offer llaw eich hun i sicrhau bod y plot wedi'i glirio erbyn diwedd Mawrth 2027.

  • Darparu eich yswiriant eich hun, tystysgrif cymorth cyntaf, offer diogelwch, a PPE.

  • Cadw'ch plot yn ddosbarthus a pharatohi'r deunyddiau ar gyfer eu tynnu o'r safle.

  • Rhannu eich profiad drwy gyfweliad byr gyda thîm Cwm Arian er mwyn ein helpu i evaluo llwyddiant y prosiect.


Sut i Ymgeisio?

Dyfernir lleoedd ar sail 'cyntaf i'r felin'. Bydd cyn-fyfyrwyr Coleg Coetir yn derbyn blaenoriaeth tan Dydd Mercher, 12 Awst 2026.

Mae angen blaendal ad-daladwy o £100 i gadarnhau eich plot (i'w ad-dalu ar ddiwedd y tymor unwaith y bydd eich deunyddiau ar ochr y drac a'r sesiwn mentora olaf wedi'i chwblhau).




Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu gan Gynllun Tirwedd Coedwig Genedlaethol Cymru 2025/2027 Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGCG.

 
 
 

Comments


Y Wennol

Crymych Arms

Crymych

Sir Benfro / Pembrokeshire

SA41 3RJ

Ffôn: 01239 831602

  • Facebook
  • Instagram

Gweld Polisi Preifatrwydd Cwm Arian

CYLCHLYTHYR MISOL

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol i gael y wybodaeth ddiweddaraf

bottom of page