top of page

Cronfa Goffa Daniel Blackburn ar gyfer Gweithredu Ieuenctid

Ar ddiwedd haf 2026, byddwn yn lansio grant blynyddol newydd o £5,000 ar gyfer gweithredu ieuenctid. Mae'r gronfa yn etifeddiaeth i'n cydweithiwr annwyl ag aelod sylfaenol o Cwm Arian, Daniel Blackburn.
daniel turbine blade.jpg

Rydym wedi dylunio'r gronfa i ganolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc trwy brosiectau arloesol a gynlluniwyd gyda chynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol isel mewn golwg. Mae'n ffocws sy'n adlewyrchu angerdd Daniel dros ysbrydoli pobl ifanc gydag arbrofion ffiseg ac ynni adnewyddadwy.

​

Roeddem am adlewyrchu ei ddull llawen, ecsentrig trwy annog ffyrdd newydd o feddwl a galluogi prosiectau newydd i ddod yn realiti, yn union fel y gwnaeth Cwm Arian. Rydym yn gofyn am geisiadau i'r gronfa droi o amgylch un o'n themâu allweddol sef trafnidiaeth gynaliadwy, byw bywyd carbon isel, ynni adnewyddadwy a/neu ecoleg a'r amgylchedd.

Rydym yn chwilio am ysgolion, elusennau a grwpiau ieuenctid sydd â'u prif ffocws ar weithio gyda phobl ifanc (o dan 18 oed) yng Ngogledd Sir Benfro, De Ceredigion a Gorllewin Sir Gaerfyrddin.

​

Rhaid i brosiectau arfaethedig gynnwys yn llawn y bobl ifanc a fydd yn elwa o'r prosiect. Roedd Daniel yn eiriolwr gwirioneddol dros wrando a chyfathrebu ag empathi a hoffem weld bod pobl ifanc wedi ysbrydoli a llunio'r prosiect a'u bod yn rhan o'i gyflawni.

​

Bydd y gronfa hon ar gael yn flynyddol a bydd un grant o uchafswm o £5000 yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn.

​

Bydd y gronfa'n cael ei lansio ar ddechrau mis Gorffennaf 2026 a bydd ceisiadau'n cael eu derbyn drwy gydol mis Medi a mis Hydref. Cyhoeddir manylion llawn y meini prawf a'r broses ymgeisio yma cyn bo hir.

 

Cyhoeddir enw'r ymgeisydd llwyddiannus cyntaf ym mis Ionawr 2027.

​

Bydd y gronfa hon ar gael yn flynyddol a bydd un grant o uchafswm o £5000 yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn.

 

Bydd ceisiadau’n agor ar 2il Medi ac yn cau ar 31ain Hydref.

​

Cyhoeddir enw'r ymgeisydd llwyddiannus cyntaf ym mis Ionawr 2027.

.

Y Wennol

Crymych Arms

Crymych

Sir Benfro / Pembrokeshire

SA41 3RJ

Ffôn: 01239 831602

  • Facebook
  • Instagram

Gweld Polisi Preifatrwydd Cwm Arian

CYLCHLYTHYR MISOL

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol i gael y wybodaeth ddiweddaraf

bottom of page