top of page

Beth sy’n digwydd ar stondin Cwm Arian yn yr Eisteddfod?


Dewch o hyd i ni ar Stondin 921, ger y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg a gyferbyn â Lolfa Goffi.


Bydd ein tîm ar y stondin bob dydd rhwng 9.00yb a 5.30yp, gyda gwesteion arbennig, gweithdai creadigol a gweithgareddau drwy gydol yr wythnos.


Dewch draw i ddweud shwmae, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a’n helpu i ddychmygu dyfodol mwy cynaliadwy i’n cymunedau.


📅 Dydd Sadwrn 1 Awst – Diwrnod Ynni

Tîm cyngor ynni: 10.30yb–3.30yp


Dysgwch am ffyrdd syml o arbed ynni, gwneud eich cartref yn gynhesach, a manteisio ar ein gwasanaethau atebion clyfar ac ôl-osod. Neidiwch ar ein beic ynni hefyd i weld faint o bŵer y gallwch ei gynhyrchu!


📅 Dydd Sul 2 Awst – Diwrnod Tir

Tîm Bracken Fuel: 10.30yb–3.30yp


Dysgwch sut y gellir troi rhedyn yn danwydd lleol cynaliadwy, gan gefnogi’r gwaith o reoli ein rhostiroedd gwerthfawr ar yr un pryd. Bydd brics tanwydd Twymo ar gael i’w prynu drwy gydol yr wythnos.


📅 Dydd Llun 3 Awst – Diwrnod Ynni

Tîm cyngor ynni: 10.30yb–3.30yp


Dewch â’ch cwestiynau am ynni yn y cartref a siaradwch yn uniongyrchol â’n cynghorwyr cyfeillgar am arbed arian, cadw’n gynnes a chael cymorth gydag ôl-osod. Peidiwch ag anghofio rhoi cynnig ar y beic ynni!


Hefyd ddydd Llun: Sgwrs Nyfer am Byth am 11.00yb

Bydd ein Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu, Sophie Jenkins, yn siarad ar Lwyfan y Lloeren yn yr Ardal Wyddoniaeth a Thechnoleg. Ymunwch â hi i glywed am Nyfer am Byth a’r gwaith sy’n cael ei arwain gan y gymuned i greu dyfodol mwy cynaliadwy i Afon Nyfer a’i dalgylch.


📅 Dydd Mawrth 4 a dydd Mercher 5 Awst – Diwrnodau Cymunedol

Gweithdai Celfyddydau SPAN ac Y Stiwdio: 10yb–12yp a 2yp–4yp


Dewch i fod yn greadigol gyda Celfyddydau SPAN ac Y Stiwdio! Trowch ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a darnau lliwgar o ffabrig yn faneri, baneri bach, cardiau, coronau a thorchau.

Bydd pob sesiwn hefyd yn cynnwys caneuon Cymraeg am yr amgylchedd, gyda ffidil ac offerynnau taro i bawb gael chwarae a chanu gyda’i gilydd.


📅 Dydd Iau 6 Awst – Diwrnod Ynni

Dewch i gwrdd ag Ynni Cymunedol Cymru a darganfod sut y gall pobl leol gynhyrchu, bod yn berchen ar ynni adnewyddadwy ac elwa ohono. P’un a oes gennych egin syniad neu eich bod eisoes yn gweithio ar brosiect, galwch heibio am wybodaeth, ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol.


📅 Dydd Gwener 7 Awst – Diwrnod Tir

Dysgwch am ein gwaith gyda choetiroedd, afonydd a’r dirwedd ehangach, a sut y gallwch gymryd rhan drwy wirfoddoli. Gallwch hefyd alw heibio i greu eich hudlath ŵyl eich hun o helyg!


📅 Dydd Sadwrn 8 Awst – Diwrnod Cymuned a Thir

Dewch i ddathlu’r bobl, yr iaith a’r tirweddau sydd wrth galon ein gwaith. Cwrdd â’r tîm, darganfod ein prosiectau cymunedol a’n gwaith ar y tir, ac ymuno â phrosiect Pawb yn Perthyn Cyngor Hil Cymru i greu darn arbennig o faneri bach ar y cyd.


Galwch heibio i siarad â Sophie, ein Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu, am ein gwaith i wella ymgysylltiad drwy’r Gymraeg a’r cysylltiadau dwfn ac anniriaethol rhwng iaith, tirwedd a pherthyn. Os ydych chi’n lwcus, efallai y bydd hi hyd yn oed yn rhannu chwedl neu stori leol sy’n ein gwreiddio yn ein bro.


Drwy gydol yr wythnos

Sut olwg allai fod ar ddyfodol cynaliadwy i’n hardal leol? Ychwanegwch eich llais at ein hymgynghoriad galw-heibio rhyngweithiol.


Rhannwch eich syniadau, eich gobeithion a’ch blaenoriaethau, a helpwch ni i gyd-ddylunio dyfodol mwy cynaliadwy a chydnerth i’n cymunedau, ein tirweddau a’n systemau ynni.

 
 
 

Comments


Y Wennol

Crymych Arms

Crymych

Sir Benfro / Pembrokeshire

SA41 3RJ

Ffôn: 01239 831602

  • Facebook
  • Instagram

Gweld Polisi Preifatrwydd Cwm Arian

CYLCHLYTHYR MISOL

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol i gael y wybodaeth ddiweddaraf

bottom of page