top of page

“Mae Cartrefi Clyd yn Cynnig Rhywbeth Unigryw” – Dewi Williams, Cydlynydd Prosiect.

Ysgrifennwyd gan Dewi Williams, y Cydlynydd Prosiect newydd ar gyfer y prosiect ôl-osod, Cartrefi Clyd





Dw i wedi bod eisiau gweithio yn y sector gwyrdd cymunedol ers tipyn, gan ddilyn gwaith Ynni Cymunedol Cymru, YnNi Teg, Datblygiad Egni Gwledig a grwpiau lleole eraill i mi yng Nghaernarfon. Dw i wastad wedi cael fy nharo gan y gwerthoedd sy’n rhan o’u gwaith – cydweithio, rhoi pobl yn gyntaf, a gweithio nid-er-elw.


Mae cael y cyfle i ymuno â thîm Cartrefi Clyd wedi dod ar yr amser gorau i mi. Mae’n teimlo fel cyfle unigryw ar gyfer yr hyn sy’n digwydd heddiw. Rydym yn gweld y sector ynni’n datblygu’n gyflym ynghyd ag effaith andwyol tanwyddau ffosil ar biliau ynni. Does gennym ni ddim dewis amgen ond i fod yn fwy effeithlon o fewn ein cartrefi a defnyddio ynni adnewyddadwy ar gyfer defnydd bob dydd. Rydym eisiau i gymunedau Cymru bod yn fwy hunan-gynhaliol ac yn llai dibynnol ar ffynonellau ynni allanol. Yn anffodus, nid oes llawer o gefnogaeth ar gyfer cartrefi a theuluoedd a chymunedau i wneud hyn, felly dyma yw bwriad Cartrefi Clyd.


Pan welais i brosiect Cartrefi Clyd am y tro cyntaf, roedd popeth yn gwneud synnwyr. Rwy’n weithgar yn fy nghymuned leol fel cadeirydd pwyllgor y neuadd bentref, ac rwyf wedi cael cynigion nifer o weithiau i wella’r adeiladau drwy gynllun ECO4. Yn anffodus, fel nifer o rai eraill, nid ydym yn gymwys i dderbyn y gefnogaeth.


Mae mwy a mwy ohonom yn ystyried sut fedrwn ni leihau ein hôl-troed carbon wrth i enghreifftiau o’u heffeithiau erchyll luosogi bob blwyddyn. Ond mae’r bwlch mewn darpariaeth a chyngor ar gyfer y rheiny ohonom sydd eisiau cymryd camau i ddatgarboneiddio ein cartrefi wedi gadael nifer heb gyfeiriad.


Dyma sy’n gwneud Cartrefi Clyd yn wahanol. Mae’n bosib bod rhai wedi clywed am brosiectau ôl-osod blaenorol sydd heb gymryd y gofal sydd gennym ni yn Cartrefi Clyd, gan arwain at niwed i gartrefi a rhagor o gostau drud i bobl. Mae ein haseswyr yn ystyried pob rhan o gyd-destun y cartref – ei leoliad, beth yw’r hinsawdd sy’n ei amgylchynu, sut mae pobl yn byw ynddo, y deunyddiau mae wedi adeiladu ohonynt, ac ystod eang o ffactorau eraill. Maent wedi cymhwyso’n llawn, ac yn byw ac yn gweithio’n lleol i’r ardaloedd rydym yn eu gwasanaethu – Carnarfon, Hermon (Sir Benfro), Caerdydd a’r Drenewydd ar hyn o bryd. Ein gobaith yw i ehangu ein gwasanaeth fel bod mwy o’n cymunedau ni’n gallu gwneud y mwyaf o’n gwasanaethau.


Rydym yn annibynnol, ac wedi ein ffurfio o sefydliadau cymunedol mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Dyma pam rwy’n credu bod Cartrefi Clyd yn darparu rhywbeth unigryw.


Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu asesiad ôl-osod ar gyfer eich cartref, cysylltwch â ni, ac fe wnawn ni drefnu cael asesydd i gysylltu â chi.

0 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page