top of page

Llwyddiant: Ynni Gwell ac Yn Rhatach i Neuaddau Cymunedol

Rydym yn falch iawn o rannu newyddion gwych — mae Cwm Arian wedi sicrhau £82,488 o gyllid trwy Ynni Cymru, rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi datblygu prosiectau ynni cymunedol.


Mae’r cyllid hwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rydym yn gweithio’n agos gyda Pwyllgor Neuadd Maenclochog, Pwyllgor Neuadd Atgofion Llandudoch, a Clwb Squash Aberteifi  i osod paneli solar, pwmp gwres dŵr poeth, a chyfleusterau codi cerbydau trydan (EV). Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i leihau costau ynni, lleihau allyriadau carbon, ac wneud lleoedd cymunedol yn fwy cynaliadwy.

“Rydym wir yn ddiolchgar ac yn falch o’r cymorth a roddwyd i ni gan Cwm Arian, sydd wedi arwain at gael grant sylweddol i osod paneli solar gyda chynhwysedd batri mawr. Bydd hyn yn helpu i leihau ein costau ynni, gan ganiatáu inni gadw’r ffi llogi yn isel er budd y grwpiau gwych a amrywiol sydd gennym yn St Dogmaels.”— Jacqui Kinsay, Aelod Pwyllgor, Neuadd Atgofion Llandudoeg / St Dogmaels

Os yw’ch neuadd gymunedol angen cymorth gyda gwelliannau ynni, darganfyddwch sut y gallwn helpu. O grantiau a chyngor i osod prosiectau ynni adnewyddadwy a chyfleusterau EV, mae Cwm Arian yma i gefnogi cymunedau lleol i arbed ynni, arbed arian, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

 
 
 

Comments


Y Wennol

Crymych Arms

Crymych

Sir Benfro / Pembrokeshire

SA41 3RJ

Ffôn: 01239 831602

Gweld Polisi Preifatrwydd CARE

  • Facebook
  • Instagram

CYLCHLYTHYR MISOL

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol i gael y wybodaeth ddiweddaraf

bottom of page