Ymunwch â'n rhaglen wirfoddoli newydd
- bethan544
- 3 hours ago
- 1 min read

Bydd ein rhaglen wirfoddoli CoedUNO yn ein safle tyfu cymunedol ac agroforestry yn Nhegryn, Gogledd Sir Benfro, yn dechrau bob bore Mawrth 10yb-1yp o 21 Ebrill 2026.
Bob bore Mawrth bydd gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’n gilydd ar amrywiaeth o weithgareddau rheoli tir.
Nid oes angen profiad blaenorol, bydd arweiniad a chymorth ar gael bob amser. Mae’r sesiynau’n gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, cadw’n heini yn yr awyr agored, a chwrdd â phobl newydd mewn awyrgylch croesawgar a chefnogol.
Dewch am dished o de, sgwrs, a phrofiad ymarferol o weithio ar y tir.
Mae croeso i bawb – p’un a ydych yn awyddus i ddatblygu sgiliau tir-seiliedig, cyfrannu at natur leol, neu ddim ond treulio amser yn yr awyr iach gyda chwmni da.
Am yr holl fanylion, edrychwch ar y poster isod ac i gofrestru, e-bostiwch ein cydlynydd gwirfoddoli: kevin@cwmarian.org.uk
CoedUNO : mae’r enw yn chwarae ar y gair “cyduno”, sy’n golygu uno neu ddod at ei gilydd, a’r gair “coed”, sy’n golygu coetir neu goed, gan adlewyrchu nod y prosiect o ddod â phobl a choetiroedd at ei gilydd.




Comments