| Prosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian
Yn Gryno...
Enillodd y gymuned grant o £400,000 ar gyfer prosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE) i leihau’r ôl troed carbon yng nghymunedau Hermon, Glog a Llanfyrnach.
I gychwyn bydd y grant yn ariannu systemau ynni adnewyddadwy o eiddo’r gymuned (megis tyrbinau gwynt neu ddŵr) sy’n gallu cynhyrchu ynni ac arian.
Gellir defnyddio’r incwm cymunedol hwn ar gyfer grantiau effeithlonrwydd mewn cartrefi lleol yn ogystal â phrosiectau eraill i greu mwy o swyddi cynaliadwy a chryfhau ein heconomi lleol.
Mwy o fanyliono...
Mae Cynlluniau Gweithredu Hermon, Glog a Llanfyrnach (Cwm Arian) yn dyddio’n ôl i 2004. Mae hyn yn dangos bod y gymuned am fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, canfod ffordd o ddiogelu ein hunain rhag prisiau cynyddol ynni ac archwilio’r defnydd o systemau ynni adnewyddadwy yn yr ardal leol.
Yn 2006 dyfarnwyd £8,000 i’r gymuned er mwyn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ynni adnewyddadwy yn yr ardal.
Yn 2010, dyfarnwyd grant Her Cymunedau Carbon Isel i gymuned 'Cwm Arian', yn seiliedig ar ganfyddiadau astudiaeth dichonoldeb 2008. Bydd unrhyw arian sy’n cael ei greu yn dod yn ôl i’r gymuned, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ynni ein cartrefi; trwy wella insiwleiddiad er enghraifft. Gallai gael ei ddefnyddio hefyd i gefnogi mentrau cymdeithasol lleol a chreu swyddi.
Yr Astudiaeth Ddichonoldeb
Gwnaeth cwmni o Bowys o’r enw Dulas ateb cwestiynau’r gymuned ynghylch y math o dechnoleg ynni adnewyddadwy y gellid ei defnyddio i greu arian. Canfu’r astudiaeth:
- mai datblygiad adnewyddadwy ar raddfa fawr fyddai’r ffordd fwyaf economaidd i fuddsoddi.
- bod ein hardal leol yn fwyaf addas ar gyfer cynhyrchu ynni trwy bŵer gwynt ac fe nododd y safleoedd mwyaf addas.
- y byddai mesurau effeithlonrwydd ynni cymuned gyfan yn ddewis da hefyd i leihau gwariant a chynyddu diogelwch ynni.
- y byddai sawl math o ddulliau eraill ar gyfer cynhyrchu ynni yn ddefnyddiol ar raddfa llawer llai (domestig).
Lawrlwytho’r Astudiaeth Ddichonoldeb
Cyflwynwyd Adroddiad terfynol yr Astudiaeth Ddichonoldeb Ynni Adnewyddadwy i gymdeithas Cwm Arian ddiwedd mis Mawrth ynghyd â chyflwyniad PowerPoint (Cyflwyniad Dulas) a chynhaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus i ddweud am y canfyddiadau. Yn ogystal, dosbarthwyd holiadur â llaw i bob cartref yn yr ardal i’w gwahodd i gyflwyno sylwadau ar wahanol agweddau ar Effeithlonrwydd Ynni ac Ynni Adnewyddadwy.
Nododd yr astudiaeth safle a oedd yn edrych yn addawol ar gyfer gosod dau dyrbin gwynt ar y bryniau y tu ôl i Lanfyrnach. Byddai’r tyrbinau hyn yn darparu incwm wrth werthu’r trydan a oedd yn cael ei gynhyrchu i’r Grid Cenedlaethol; byddai hyn yn creu arian y gellid ei roi’n ôl yn y gymuned er lles ei phreswylwyr. Fodd bynnag, nid yw’n ddichonadwy yn economaidd nac yn ymarferol i ddarparu ynni ‘am ddim’ i gartrefi lleol yn uniongyrchol o dyrbinau gwynt o’r fath (cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth). Roedd y safleoedd dŵr micro yn edrych yn llai gobeithiol oherwydd y gost uwch i’w gweithredu am bob cilowat o ynni oedd yn cael ei gynhyrchu. Ystyriwyd nad oedd biomas yn ddichonadwy oherwydd diffyg adnoddau lleol y gellid eu defnyddio heb gostau cludiant uchel.
Lawrlwytho’r:
Adroddiad Astudiaeth Ddichonoldeb Ynni Adnewyddadwy (pdf)
Cyflwyniad Ynni Adnewyddadwy (pdf)
Mae’r grŵp bellach yn ystyried y cam nesaf o gynnal astudiaeth fanwl o’r safle pŵer gwynt a nodwyd er mwyn cofnodi mesuriadau dros gyfnod o 12 mis. Ar yr un pryd bydd yn nodi posibilrwydd ar gyfer ariannu a mynd ar drywydd y dasg o geisio cael caniatâd cynllunio.
Pam Tyrbinau?
Ers mis Hydref 2010, mae staff Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian wedi bod yn edrych ymhellach ar yr hyn y gwnaeth astudiaeth ddichonoldeb 2008 ddangos. Mae’r wybodaeth yn yr astudiaeth wedi’i hail-wirio a’i diweddaru.
Creu ynni o wynt yw’r dewis gorau yn yr ardal hon o hyd. Bydd data gwynt mwy cywir yn cael ei gasglu, i wneud 100% yn siŵr bod y tyrbinau’n cael eu rhoi yn y man priodol.
Mae staff CARE wedi cyfarfod â chynllunwyr Cyngor Sir Penfro i drafod y posibilrwydd o gael tyrbinau gwynt ger Llanfyrnach, a sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn gyfreithiol, yn deg ac yn ddiogel.
Y Gymuned
Bydd cymunedau cryf, fel sydd gennym ni, yn gallu goroesi’r newidiadau yn yr hinsawdd a’r economi yn hynod dda. Rydym eisoes wedi cyflawni cymaint gyda’n gilydd, a bydd y prosiect ynni adnewyddadwy yn gwneud ein cymuned yn fwy cynaliadwy eto.
Bydd y grantiau a ddaw o’r ynni fydd yn cael ei greu gan y tyrbin yn ein cynorthwyo i wario llai ar ein biliau ynni, tra’n osgoi niweidio’r amgylchedd ac ychwanegu at broblemau amgylcheddol. Felly, bydd y gymuned gyffredinol yn ogystal â’r gymuned leol yn elwa.
Ynni Adnewyddadwy 2010
Ym mis Chwefror 2010 llwyddodd Prosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE) i sicrhau grant o £400,000 gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) dan gynllun her cymunedau carbon isel (LCCC).
Mae swyddogion prosiect wedi’u penodi i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gweithio ar ddatblygu canolfan adnoddau cymunedol i dynnu sylw at fentrau carbon isel cymunedol a chynnig cyllid ar gyfer mentrau adnewyddadwy.
Gweler isod am wybodaeth am grantiau, cynllun busnes a’r cyflwyniad Powerpoint sy’n dangos ein datblygiadau cymunedol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Cwmarian - Business Plan - Sept 2009 - v2
CWM Arian - Feb additional LCCC - application Phase 2 v4
CWM ARIAN POWER POINT Presentation 1999 to 2010
|