![]() |
||||
Hafan | Cefndir | Cysylltu â Ni | Cysylltiadau | English |
||||
Canolfan Adnoddau Cymunedol Hermon Cynlluniau Gweithredu Gorffennol Cwm Arian |
Archwiliad Ynni Cymunedol Cwm Arian
Mae prosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian wedi sefydlu archwiliad ynni cymunedol trwy Gyfrifiannell Cymunedau Gwyrdd (Green Communities Calculator) yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Gall holl gartrefi’r gymuned ymuno â grŵp 'CwmArian' trwy gofrestru a gellan nhw lenwi archwiliad ynni cyflym a syml ar gyfer eu heiddo. Bydd yr archwiliadau a lenwir yn rhoi syniad i ni o faint o ynni y mae’r adeiladau yn ein cymuned yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Mae hefyd yn rhoi cynghorion defnyddiol i chi ar sut i ddefnyddio llai o ynni ac arbed arian! I lenwi’r archwiliad eich hun, ewch i: Cymunedau Gwyrdd (Green Communities) Cofrestrwch, yna ymunwch â grŵp 'CwmArian'. Mae’n ddefnyddiol os oes gennych rai o’ch biliau cartref wrth law pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen archwiliad. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr archwiliadau ynni - rydym yn barod i’ch cynorthwyo i lenwi’r wybodaeth a rhoi cyngor ynglŷn ag arbed ynni yn y cartref.
|
|||