Cwm Arian Header Logo
 

 

Digwyddiadau Lleol


Cylchlythyr Cymunedol


Canolfan Adnoddau Cymunedol Hermon


Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian

Archwiliad Ynni Ar-lein


Cynlluniau Gweithredu Gorffennol Cwm Arian


Gŵyl Roc y Garreg Las

 

Croeso i Cymdeithas Cwm Arianhermon yn yr eira

Fforwm Cymuned Leol sy'n ymdrin â thri phentref yng ngogledd Sir Benfro, sef Hermon, Glog a Llanfyrnach, yw Cymdeithas Cwm Arian. Mae hon yn ardal wledig sy'n cynnwys tua 200 o dai a ffermydd

Defnyddiwch y dewislenni i'r chwith ac i fyny i pori'r wefan.

 

 

Newyddion

 

Pŵer Dŵr - Hanes Hydro yn Hermon!

05.04.2011


Daeth nifer helaeth o gerddwyr yn Hermon allan i'r haul dau wythnos yn ol, pan gyrhaeddodd 50 o bobl i gerdded drwy'r mwd, eirlysiau a hanes lleol.  Aeth y daith heibo nifer o fythynnod adfeiliedig, a hen olwynion dwr, a ddysgant bod dŵr yn un o'r adnoddau pŵer cyntaf i ddod i mewn i gartrefi gwledig yn lleol.

Cafodd y daith ei dilyn gan cyflwyniad diddorol ar tyrbinau dŵr modern sydd yn cael eu gosod yn yr ardal. Ddysgodd y gynulleidfa am ysgogiadau  newydd a elwir 'Feed In Tariffs' neu FITs, efo te a chacennau cartref.

"Mae'n anhygoel - gallwn i fod wedi cael fy gynilion wedi dychwelyd mewn 7 mlynedd a dechrau gwneud elw da. Mae'n well na gadael nhw yn y banc. "dywedodd preswylydd lleol Mr Tomos.

Mae'r FITs nawr yn gwneud hydro ar raddfa fach, gwynt a gosodiadau pwer haul yn fuddsoddiad hyfyw a llewyrchus ar gyfer deiliaid tai a ffermwyr, yn gwneud elw dda mewn ychydig flynyddoedd byr. Trefnwyd y digwyddiad gan brosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian a ariennir gan y llywodraeth.

Am ragor o wybodaeth gweler www.cwmarian.org.uk ac ymwelwch â tudalen y Chanolfan Eco Cymru, yng Nghasnewydd i gael cyngor diduedd cyffredinol am ynni adnewyddadwy a'r cymhellion llywodraeth.


Hydro Walk

 

Taith i'r Ganolfan Technoleg Amgen, Machynlleth

Ar Dydd Sul 27fed Mawrth. Archebwch erbyn y 20fed.

Taith am Ddim. Archebwch nawr!

CAT Tour 27th March 2011. 01239 831968

 

 

Digwyddiadau Mawrth 2011:

Digwyddiadau Cwm Arian Mawrth 2011

 

Ar y thema trafnidiaeth ... Trenau Abergwaun

01.02.2011

Nos Yfory yw Noson Trafnidiaeth Cwm Arian (gweler isod), ac ar thema trafnidiaeth lleol mae'r Ddeiseb Trenau Abergwaun wedi ddod i'n sylw. Mae'r ymgyrch i gael mwy o drenau i'r orsaf Abergwaun - hyd yma dim ond 2 drên sy'n cyrraedd bob 24 awr! Byddai cael mwy o drenau'n hyrwyddo twristiaeth a chael mwy o bobl yn defnyddio'r fferi.

Gallwch chi fewngofnodi eich cefnogaeth i'r ymgyrch yma: Gwefan y Deiseb

Mae rhagor o wybodaethyr ymgyrch ar y canlynol:

Ffilm yr ymgyrch - Cymraeg

Petition Update - Bilingual

Petition Archive (Outdated, still online for reference)

BBC Wales Today Appearance & News Coverage
BBC News Online Article
Petition Campaign Video - English

Sgyrsiau Trafnidiaeth a Swper Bwffe

02.02.2011

Mae Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian wedi trefnu gweithdy trafnidiaeth, gyda swper bwffe am ddim, i roi gwybodaeth am arbed arian a'r amgylchedd drwy ddefnyddio trafnidiaeth yn fwy effeithlon. Croeso i pawb, felly dewch i ymuno os oes modd!

Poster Gweithdy Cludiant

 

Ffilm Prosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian

23.01.2011

Cafodd ffilm fer ei gynhyrchu ar gyfer prosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian, sy'n canolbwyntio ar y "Heriau sy'n wynebu". Mae'n ffilm braidd yn rhyfedd, gan nad ydym wedi wynebu unrhyw her wirioneddol o'r gymuned hyd yn hyn - mae'r prosiect wedi ei eni o ymgynghori â'r gymuned. Fydd y ffilm yn cael ei ddilyn gan ffilmiau pellach ar bob agwedd y prosiect.

 

 

 

Calendr Digwyddiadau

Cysylltwch â ni i ychwanegu digwyddiadau i'r calendr gymunedol.

 

Gwelwch y tudalen Digwyddiadau am rhestr o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn Ganolfan Cymunedol Hermon ac yn yr ardal lleol.

 

Neges o Canolfan Adnoddau Cymunedol Hermon

Diolch yn fawr i bawb â phrynnodd cyfranddaliadau i helpu i brynu'r safle ô’r awdurdod lleol!