Swyddi ar gael yng Nghanolfan Hermon 2012
Dyddiad Cau 20/01/2012
Swyddi 2012 Hermon -DS- Cydlynydd -C
Swyddi 2012 Hermon -DS- Swyddog Safel -C
Swyddi 2012 Hermon -DS- Coordinator -E
Swyddi 2012 Hermon -DS- Site Works Officer -E
Datblygiad Canolfan Adnoddau Cymunedol Hermon
Cwrdd Gymuned. Dydd Mercher Mawrth 9fed, 7:30yh -
Dewch i'r Cwrdd Gymuned diweddaraf i glywed am sut y mae'r cynlluniau adeiladu
yn dod ar hyd a pryd bydd gwaith yn dechrau!

Yn Gryno:
Mae'r ysgol wedi derbyn nifer o grantiau a llawer o gyfraniadau gan y gymuned ar gyfer adeiladu estyniad newydd gyda ffrâm o bren.
Bydd yno le i swyddfeydd a mannau cyfarfod, a lle i gynnal digwyddiadau a pherfformiadau.
Cafwyd grantiau ar gyfer arfer creu estyniad eco effeithlon a fydd yn rhad i'w redeg ac yn glyd bob amser!
Mwy o fanylion:
Yn ôl yn 2004 mynegwyd angen cryf am le i gynnal cyfarfodydd cymunedol yn fforymau cymunedol Planed. Erbyn 2005 roedd yna gynllun gweithredu ar gyfer defnyddio’r ysgol mewn gwahanol ffyrdd ar ôl i'r ymgyrch yn erbyn ei chau fethu. Yn anffodus gwnaeth holl ymdrechion y bobl leol fethu ag atal iddi gael ei chau a chaewyd yr ysgol yn 2007.
Fodd bynnag, gwnaeth hyn dynnu pobl at ei gilydd. Llwyddodd y gymuned i brynu'r ysgol a chodi dros £400,000 i’w hadnewyddu a’i hehangu fel Canolfan Adnoddau Cymunedol ...
Camau Datblygu
Mae yna sawl cam gwahanol i’r datblygiadau yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hermon:
Cam 2: Adeiladu'r estyniad.
Statws: Yn parhau
Trafododd y gymuned y cynlluniau pensaernïol manwl ac rydym bellach yn paratoi i adeiladu’r estyniad newydd ar y safle.
Mae'r hen gegin wedi ei dymchwel a bydd y neuadd newydd, sy’n cynnwys lle i 150 o bobl eistedd, yn ogystal â llwyfan yn cael ei hadeiladu yno.
I gael cipolwg ar ffurf y ganolfan gymunedol wedi iddi gael ei chwblhau, gweler y cynlluniau:
Cynlluniau Canolfan Adnoddau HERMON 1
Cynlluniau Canolfan Adnoddau HERMON 2
Cam 1 : Prynu a defnyddio safle’r hen ysgol.
Statws: Cwblhawyd
Yn ôl yn 2004 mynegwyd angen cryf am le i gynnal cyfarfodydd cymunedol yn fforymau cymunedol Planed. Erbyn 2005 roedd yna gynllun gweithredu ar gyfer defnyddio’r ysgol mewn gwahanol ffyrdd ar ôl i'r ymgyrch yn erbyn ei chau fethu. Yn anffodus gwnaeth holl ymdrechion y bobl leol fethu ag atal iddi gael ei chau a chaewyd yr ysgol yn 2007.
Diolch yn fawr i bawb a brynodd gyfranddaliadau er mwyn cynorthwyo’r gwaith o brynu'r safle oddi wrth yr awdurdod lleol.
Bellach mae yna gwmni cydweithredol sy’n cael ei weithredu gan y gymuned wrthi’n datblygu menter gymdeithasol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y safle.
|