Cefndir Cymdeithas Cwm Arian
Fforwm Cymuned Leol sy'n ymdrin â thri phentref yng ngogledd Sir Benfro, sef Hermon, Glog a Llanfyrnach, yw Cymdeithas Cwm Arian. Mae hon yn ardal wledig sy'n cynnwys tua 200 o dai a ffermydd sy’n ffinio â bryniau'r Preseli i'r gorllewin a'r afon Taf i'r gogledd. Dewiswyd yr enw Cwm Arian i adlewyrchu’r cysylltiad hanesyddol gyda’r mwyngloddiau arian a phlwm fu’n gweithio am nifer o ganrifoedd yn ardal Llanfyrnach.
Mae'r gymdeithas yn cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn i adolygu cynnydd gweithgorau Cwm Arian sy’n cynnwys gwahanol gategorïau Cynllun Gweithredu’r Gymdeithas. Mae rhai o'r categorïau hyn wedi’u cynnwys yn y ddewislen ar ochr chwith y dudalen we, sydd hefyd yn cynnwys meysydd eraill o ddiddordeb. Trwy glicio ar unrhyw un o'r opsiynau hyn gallwch weld eu statws presennol.
|